TAITH I'R PYRENEES
Fel sy'n addas i ganolfan ym Meirion, yng ngeiriau'r hen gân "Fe gychwynnwyd ar nos Wener...".  Er hynny, methodd bws Arthog â chyrraedd Dover mewn pryd i ddal y llong am 00:45 ac felly daliom y llong am 05:15 yn lle.

Roedd un ar ddeg ohonom, Andy, Jay, David, Stephen G., Carl, Rose, Alice, Stephen B., Patrick, John a fi.
Ymunais â Chanolfan Addysg Awyr Agored Arthog ar daith ganwio i ardal mynyddoedd y Pyrenees yn Sbaen rhwng 31 Mai a 7 Mehefin 2002.
Gwersyllon ni yn Llavorsi, Catalunya am bedair noson ac yn Ayerbe, Aragon am ddwy.  Aethom ar bedair afon - Río Noguera Pallaresa, Río Esera, Río Gállego a Río Ara.
Río Gállego
Yn disgwyl y wennol i'n hachub o'r Río Esera
Lle arhosom yn Ayerbe
Rhagor o luniau gan Patrick