Gadawsom Dover tua 5 o'r gloch prynhawn Dydd Gwener a chyrraedd gwersyll La Corumba yn Les Vigneaux tua 7 y bore wedyn.
Roedd pump ohonom: Nic, yr arweinydd, Clare, Lesley, Charlie a fi.
Es i ar rannau pum o afonydd: Guisanne, Durance, Guil, Gyronde ac Ubaye. Gan i mi fod yn sâl, collais un diwrnod pan aeth y lleill ar afon Onde. Collais un peth arall hefyd: fy mhadl, a dorrodd yn ei hanner ar afon Guisanne, o fewn rhyw 15 munud ar y dwr, ar ôl i mi droi drosodd yn syth wedi gwneud rhan anodd y dwr gwyn gradd 4 cyntaf ar yr afon - yr "S-line".